Neidio i'r cynnwys
Unigolyn yn hwylfyrddio ar Llŷn Tegid

Holiadur Ardal Ni 2035 - Dalgylch Bala a Phenllyn

Mae 7 o gynghorau tref a chymuned ynghyd a mudiadau, grwpiau a chynghorwyr lleol dalgylch Bala a Phenllyn wedi cyflwyno eu syniadau ynglŷn â beth ddylai fod yn flaenoriaethau lleol ar gyfer yr ardal yn y cyfnod hyd at 2035.

Ydych chi'n cytuno efo'r blaenoriaethau yma? Llenwch yr holiadur i roi eich barn.

Bydd eich ymatebion yn helpu i siapio prosiect Ardal Ni 2035 - sef fframwaith Cyngor Gwynedd i adfywio cymunedau lleol - ac yn bwydo i nifer o brosiectau i wella gwasanaethau lleol yn eich ardal.

Bydd eich sylwadau yn cael eu trin yn gyfan gwbl gyfrinachol. Os hoffech ddarllen polisi preifatrwydd y Cyngor, yna cliciwch ar y ddolen sydd ar waelod y dudalen.